Want help with a social enterprise?
Are you a social enterpreneur with a novel idea?
If you are an early-stage social entrepreneur, Inventorium can help you clarify your vision, define your success criteria, and identify revenue opportunities.
We’ll help you determine if there’s a market for your idea, and what value you can add to the community you want to serve. We look at feasibility, costs and prepare you to build the right team for your social endeavour.
While you need to be financially viable, success will be determined by something other than the bottom line. For many non-profits and social enterprises, the customer might not be the user, or you might provide a mixture of paid, free, and/or subsidised services or products. We can help you establish how you will balance your revenue needs with your mission for social good.
When you contact Inventorium, we can introduce you to resources, people and information that can connect your social enterprise with people who can help make it work. When you’re ready to seek funding, Inventorium can advise on fundraising strategies and access to grant supports, including NDRC’s LaunchPad and Catalyser programmes.
- Is there a market for your idea?
- How will you engage with the community you wish to serve?
- Are your success criteria reasonable?
- Are there revenue opportunities that are achievable?
- Do you need to start a new service or can you partner with an existing one?
Idea generation workshops: Identifying new services or products requires disruptive thinking and imagination.
Concept expansion workshops: Once you’ve discovered a great new idea, you need to find out where it fits and how it will work for your business.
Commercial development workshops: Whether you’re improving services to your clients or you’re adding a service to your business that will raise funds for your organisation, you’ll need to make your idea financially viable.
Incubation space: Where appropriate, Inventorium offers short-term incubation space where you can begin to assemble your idea.
Eisiau help gyda menter gymdeithasol?
A ydych chi’n entrepreneur cymdeithasol sydd â syniad newydd?
Os ydych yn entrepreneur cymdeithasol ar y camau cyntaf, fe all Inventorium eich helpu i egluro eich gweledigaeth, diffinio meini prawf llwyddiant, a nodi cyfleoedd o ran refeniw.
Fe wnawn ni eich helpu i bennu a oes marchnad ar gyfer eich syniad, a pha werth y gallwch ei ychwanegu at y gymuned rydych eisiau ei gwasanaethu. Rydym yn edrych ar bosibiliadau a chostau a’ch paratoi i adeiladu’r tîm cywir ar gyfer eich ymgais gymdeithasol.
Er y bydd angen i chi fod yn ddichonadwy yn ariannol, nid y llinell isaf yn unig sy’n pennu llwyddiant mewn mentrau o’r fath. I lawer o fentrau dielw a chymdeithasol, efallai nad y cwsmer fydd y defnyddiwr, neu efallai y byddwch yn darparu cymysgedd o wasanaethau neu gynhyrchion am dâl, am ddim, a/neu â chymhorthdal. Gallwn eich helpu i weld sut byddwch yn dod o hyd i gydbwysedd rhwng eich anghenion o ran refeniw â’ch cenhadaeth er budd cymdeithasol.
Pan fyddwch yn cysylltu ag Inventorium, gallwn eich cyflwyno i adnoddau, pobl a gwybodaeth er mwyn gallu cysylltu eich menter gymdeithasol â phobl a all helpu i wneud iddi weithio. Pan ydych yn barod i chwilio am nawdd, fe all Inventorium roi cyngor am strategaethau codi arian a rhoi mynediad at gymorth grant, gan gynnwys rhaglenni LaunchPad a Catalyser NDRC.
- A oes marchnad ar gyfer eich syniad?
- Sut byddwch yn ymgysylltu â’r gymuned rydych eisiau ei gwasanaethu?
- A yw eich meini prawf llwyddiant yn rhesymol?
- A oes cyfleoedd o ran refeniw y gallwch eu cyflawni?
- A oes arnoch angen dechrau gwasanaeth newydd neu a allwch chi bartneru â busnes sy’n bodoli eisoes?
Gweithdai cynhyrchu syniadau: Er mwyn nodi gwasanaethau neu gynhyrchion newydd mae angen meddwl aflonydd a dychymyg.
Gweithdai ehangu cysyniad: Unwaith y byddwch wedi darganfod syniad gwych newydd, bydd angen i chi wybod ble mae’n perthyn a sut bydd yn gweithio i’ch busnes chi.
Gweithdai datblygu masnachol: Boed chi’n gwella gwasanaethau i’ch cleientiaid neu’n ychwanegu gwasanaeth at eich busnes a fydd yn codi arian ar gyfer eich sefydliad, bydd angen sicrhau bod eich syniad yn ymarferol yn ariannol.
Gofod i ddeor: Pan fydd yn briodol, gallwn ddarparu gofod tymor byr i ddeor eich syniad, er mwyn eich cynorthwyo i ddwyn elfennau’r syniad at ei gilydd.
