NDRC

C.A.S.T. Ltd

349

Looking for business growth?

Looking to build on an existing business?

We help startups and established businesses minimise the risks involved with developing and implementing new ideas. Inventorium can work with you to identify problems and look for solutions. We’ll advise you on evaluating your targets and figuring out how to meet them.

We work closely with each business to understand where you see your market in two to five years, and how you can tap into these opportunities. Inventorium’s team can also connect you with other entrepreneurs as well as technical, content and subject experts who can advise you or your team.

If you determine that your business or startup could use a cash infusion to meet these new goals, we can point you towards grants and funding opportunities that can get you further along the road to success.

Our hands-on services can give you a new perspective on your business and its potential, while you retain control over your ideas and concepts.

We’ll help you answer questions such as:

  • Is your idea clear enough?
  • How does your original vision compare with what your business is doing now?
  • Where do you want to see your business?
  • Have you found your target market?
  • Is your product serving their needs, and is it good value for them?

In order to help you find practical solutions, we offer:

Bespoke idea generation workshops: A great idea can be the seed of a great business, but brainstorming ideas for new services or solutions to problems can prevent or relieve stagnation
Concept expansion workshops: Clarifying an idea also means building on it to find applications for it in the real world.
Commercial development workshops: To bring a creative concept to market, you need a business and marketing strategy that will help your great idea cover its costs and add growth to your business.
Incubation space: Where appropriate, we sometimes offer short-term incubation space that can help you assemble and test your ideas.

Chwilio am dwf yn eich busnes?

Ydych chi’n awyddus i adeiladu ar fusnes sy’n bodoli eisoes?

Rydym yn helpu busnesau ar gychwyn a busnesau sydd wedi ymsefydlu er mwyn lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â datblygu a gweithredu syniadau newydd. Gall Inventorium weithio gyda chi i dynnu sylw at broblemau a chwilio am atebion. Byddwn yn rhoi cyngor ynghylch sut i werthuso eich targedau a phenderfynu sut i’w cyrraedd.

Rydym yn gweithio’n agos â phob busnes i ddeall ble’r ydych yn gweld eich marchnad ymhen dwy i bum mlynedd, a sut gallwch fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Gall tîm Inventorium eich rhoi mewn cysylltiad ag entrepreneuriaid eraill hefyd yn ogystal ag arbenigwyr technegol, ac arbenigwyr ar gynnwys a phynciau i’ch cynghori chi neu eich tîm.

Os byddwch yn penderfynu y gallai eich busnes presennol neu fusnes ar gychwyn ddefnyddio chwistrelliad o arian i gyrraedd y nodau newydd hyn, gallwn awgrymu grantiau a chyfleoedd ariannol i’ch symud ymhellach ar y ffordd tuag at lwyddiant.

Gall ein gwasanaethau ymarferol roi cipolwg newydd i chi ar eich busnes a’i botensial, tra byddwch chi’n dal gafael ar reolaeth dros eich syniadau a’ch cysyniadau.

Byddwn yn eich helpu i ateb cwestiynau fel:

  • A yw eich syniad yn ddigon clir?
  • Sut mae eich gweledigaeth wreiddiol yn cymharu â’r hyn mae eich busnes yn ei wneud nawr?
  • Ble’r ydych eisiau gweld eich busnes?
  • Ydych chi wedi dod o hyd i’ch marchnad darged?
  • A yw eich cynnyrch yn bodloni eu hanghenion, ac a yw’n werth yr arian iddyn nhw?

Er mwyn helpu i ddod o hyd i atebion ymarferol, rydym yn cynnig:

Gweithdai cynhyrchu syniadau pwrpasol: Fe all syniad gwych fod yn egin ar gyfer busnes gwych, ond trwy gynnal sesiwn tanio syniadau ar gyfer gwasanaethau neu atebion newydd, gallwch rwystro neu gael gwared ar syniadau disymud.

Gweithdai ehangu cysyniad: Mae egluro syniad hefyd yn golygu adeiladu arno i ddod i wybod sut i’w ddefnyddio yn y byd real.

Gweithdai datblygu masnachol: I ddod â chysyniad creadigol i’r farchnad, bydd arnoch angen strategaeth busnes a marchnata a fydd yn helpu eich syniad gwych i dalu ei gostau ac ychwanegu twf at eich busnes.

Gofod i ddeor: Pan fydd yn briodol, rydym weithiau’n darparu gofod tymor byr i ddeor eich syniad, er mwyn eich cynorthwyo i ddwyn elfennau’r syniad at ei gilydd a rhoi prawf arnynt.

Looking for Business Growth?