Want help developing an idea?
Have a great idea for a business, product or service?
Inventorium can help you bring your idea from seed to startup by helping you access the right resources and information. We work with you from the earliest stages of a concept, whether or not you have a patent, a registered business, or the full range of skills.
We’ll help you figure out if there’s a market for your idea, look at feasibility, determine costs, and prepare you to build the right team for the project or business. We’ll help you find the questions to ask, and then help you find the answers. Our assistance enables you to calculate your risk more quickly than most individuals or small teams have the resources to do.
Once you are ready to look for money, Inventorium advises on fundraising strategies and access to grant supports, including NDRC’s LaunchPad and Catalyser programmes.
If you contact us directly, a member of the Inventorium team can speak to you one-on-one to determine what you need to position your idea to attract investors and funders. Our service users retain full control of their own intellectual property for as long as they are working with us.
Among the questions you’ll be asked are:
- Is the idea clear enough yet?
- Who is your potential customer?
- Do they have a need for this product?
- How much will they pay for it?
- How will you meet your targets?
To help you find the answers to key questions, we offer:
Idea generation workshops: If there’s a relevant Inventorium workshop coming up, we’ll encourage you to attend.
Concept expansion workshops: Once your idea begins to gain some clarity, it’s time to build on it.
Commercial development workshops: No matter how great an idea, in order to form the core of a business, you need to determine how your product will become financially sustainable.
Incubation space: Where appropriate, we can provide short-term incubation space that will enable you to assemble your idea.
Eisiau help i ddatblygu syniad?
Oes gennych chi syniad gwych ar gyfer busnes, cynnyrch neu wasanaeth?
Gall Inventorium eich helpu i droi eich egin syniad yn fusnes newydd trwy eich helpu i gael mynediad at yr adnoddau a’r wybodaeth briodol. Byddwn yn gweithio gyda chi o gamau cynharaf eich cysyniad, boed gennych chi batent, busnes cofrestredig, neu set lawn o sgiliau ai peidio.
Byddwn yn eich helpu i weld a oes marchnad ar gyfer eich syniad, gan edrych ar bosibiliadau, pennu costau, a’ch paratoi i greu’r tîm cywir ar gyfer y prosiect neu fusnes. Fe wnawn ni eich helpu i feddwl am y cwestiynau i’w gofyn, ac yna eich helpu i ddod o hyd i’r atebion. Gyda’n cymorth ni, gallwch weld beth yw’r risg i chi a gwneud hynny’n gyflymach nag y bydd y rhan fwyaf o unigolion neu fusnesau bach yn gallu fforddio ei wneud.
Unwaith y byddwch yn barod i chwilio am arian, bydd Inventorium yn rhoi cyngor ar strategaethau i godi arian a mynediad at gymorth grant, gan gynnwys rhaglenni LaunchPad a Catalyser NDRC.
Os byddwch yn cysylltu â ni’n uniongyrchol, gall aelod o dîm Inventorium gael gair â chi wyneb yn wyneb i benderfynu beth sydd ei angen arnoch er mwyn gosod eich syniad yn y lle gorau i ddenu buddsoddwyr ac arianwyr. Bydd pobl sy’n defnyddio ein gwasanaeth yn cadw rheolaeth lwyr ar eu heidio deallusol eu hunain tra byddant yn gweithio gyda ni.
Dyma rai o’r cwestiynau y byddwn yn eu gofyn i chi:
- A yw’r syniad yn ddigon clir eto?
- Pwy yw eich cwsmer posib?
- A oes angen y cynnyrch hwn ar y cwsmer?
- Faint fydd y cwsmer yn fodlon ei dalu amdano?
- Sut byddwch yn cwrdd â’ch targedau?
I’ch helpu i ddod o hyd i’r atebion i gwestiynau allweddol, rydym yn cynnig:
Gweithdai cynhyrchu syniadau: Os bydd gweithdy perthnasol gan Inventorium ar ddigwydd, byddwn yn eich annog i ddod.
Gweithdai ehangu cysyniad: Unwaith y bydd eich syniad yn dechrau dod yn gliriach, mae’n bryd adeiladu arno.
Gweithdai datblygu masnachol: Dim gwahaniaeth pa mor wych yw’r syniad, er mwyn ffurfio craidd y busnes, mae angen i chi benderfynu sut bydd eich cynnyrch yn dod yn gynaliadwy yn ariannol.
Gofod i ddeor: Pan fydd yn briodol, gallwn ddarparu gofod tymor byr i ddeor eich syniad, er mwyn eich cynorthwyo i ddwyn elfennau’r syniad at ei gilydd.
