Upcoming Events
Wales
Creative Technologies within the Welsh Environment, Coleg Harlech
Inventorium, in association with Coleg Harlech will be holding a workshop for Coleg Harlech students and young people in Gwynedd who are interested in entrepreneurial activities.
The workshop will bring teams together through hands on activities to generate ideas for new products and processes using digital technology.
The theme of the afternoon will be ‘Creative Technologies and the Welsh Environment’ which will encompass a wide range of applications and media.
12.00: Arrival – Buffet Lunch
12.30: Welcome and Introduction
13.00: Idea Generation Activities
14.00: Idea Selection and Development
15.00: Idea Presentations and Voting
15.45: Next Steps
16.00: End
During the workshop, as well as generating new ideas, attendees will be looking at the viability and sustainability of their business idea. Some of the best ideas will be taken forward through further meetings and workshops.
This workshop is by invite only please contact jenny@inventorium.org for more information.
The workshop follows a seminar organised by Coleg Harlech which starts at 9:30 at the college theatre. The speakers include Russell Grant, Chris Headleand, Rebecca Colley-Jones and Tom Beverly who will be presenting a variety of topics including the performing arts, developing mobile applications and social media within the context of creative technologies and environmental sustainability.
Technolegau Creadigol o fewn Amgylchedd Cymru, Coleg Harlech
Bydd Inventorium, ar y cyd â Choleg Harlech yn cynnal gweithdy ar gyfer myfyrwyr Coleg Harlech a phobl ifanc yng Ngwynedd sydd â diddordeb mewn gweithgareddau entrepreneuraidd.
Bydd y gweithdy yn dod â thimau at ei gilydd trwy gyfrwng gweithgareddau ymarferol i greu syniadau ar gyfer cynhyrchion a phrosesau newydd gan ddefnyddio technoleg ddigidol.
Thema’r pnawn fydd ‘Technolegau Creadigol ac Amgylchedd Cymru’ a fydd yn cynnwys amrywiaeth eang o gymwysiadau a chyfryngau.
12.00: Cyrraedd – Cinio Bwffe
12.30: Croeso a Chyflwyniad
13.00: Gweithgareddau Creu Syniadau
14.00: Dewis a Datblygu Syniadau
15.00: Cyflwyno Syniadau a Phleidleisio
15.45: Y Camau Nesaf
16.00: Diwedd
Yn ystod y gweithdy, yn ogystal â chreu syniadau newydd, bydd y cyfranwyr yn edrych ar ymarferoldeb a chynaliadwyedd eu syniad busnes. Bydd rhai o’r syniadau gorau yn mynd ymlaen at gyfarfodydd a gweithdai pellach.
Mae'r gweithdy hwn drwy wahoddiad yn unig, cysylltwch â jenny@inventorium.org am fwy o wybodaeth.
Bydd y gweithdy yn dilyn seminar a drefnwyd gan Goleg Harlech sy’n dechrau am 9:30 yn theatr y coleg. Ymhlith y siaradwyr bydd Russell Grant, Chris Headleand, Rebecca Colley-Jones a Tom Beverly a fydd yn cyflwyno amryw o bynciau gan gynnwys y celfyddydau perfformio, datblygu aps symudol a chyfryngau cymdeithasol o fewn cyd-destun technolegau creadigol a chynaliadwyedd amgylcheddol.
7 February, 2012
12:00 am - 4:00 pm